23. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.
24. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’
25. Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.
26. Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”
27. Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.
28. Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.
29. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.
30. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.
31. Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”
32. Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.
33. Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos.
34. Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.”
35. Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta.
36. Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd.
37. (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd).
38. Ar ôl cael digon i'w fwyta dyma'r criw yn mynd ati i ysgafnhau'r llong drwy daflu'r cargo o wenith i'r môr.
39. Pan ddaeth hi'n olau dydd, doedd neb yn nabod y tir o'n blaenau. Roedd bae gyda traeth o dywod i'w weld a dyma nhw'n penderfynu ceisio cael y llong i dirio ar y traeth hwnnw.
40. Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth.
41. Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong.