Hen Destament

Testament Newydd

Actau 27:22-31 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong.

23. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.

24. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’

25. Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.

26. Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”

27. Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.

28. Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.

29. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.

30. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.

31. Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 27