Hen Destament

Testament Newydd

Actau 27:20-37 beibl.net 2015 (BNET)

20. Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.

21. Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn.

22. Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong.

23. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.

24. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’

25. Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.

26. Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”

27. Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.

28. Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.

29. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.

30. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.

31. Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a'i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.”

32. Felly dyma'r milwyr yn torri'r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i'r dŵr.

33. Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos.

34. Dw i'n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod trwy hyn. Ond gaiff neb niwed.”

35. Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o'u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta.

36. Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd.

37. (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd).

Darllenwch bennod gyflawn Actau 27