Hen Destament

Testament Newydd

Actau 27:18-30 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd y llong wedi ei churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn.

19. A'r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i'r môr!

20. Dyma'r storm yn para'n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na'r sêr. Erbyn hynny roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni.

21. Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn.

22. Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni'n mynd i golli'r llong.

23. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i'n ei wasanaethu.

24. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae'n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw'n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’

25. Felly codwch eich calonnau! Dw i'n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i.

26. Ond mae'r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu'i gilydd.”

27. Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i'r storm ddechrau, ac roedden ni'n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma'r morwyr yn synhwyro ein bod ni'n agos at dir.

28. Dyma nhw'n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw'n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr.

29. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw'n gollwng pedwar angor o'r starn ac yn disgwyl am olau dydd.

30. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o'r llong. Roedden nhw'n esgus eu bod nhw'n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw'n ceisio gollwng y cwch glanio i'r môr.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 27