Hen Destament

Testament Newydd

Actau 26:17-32 beibl.net 2015 (BNET)

17. Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw

18. i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’

19. “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd.

20. Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.

21. A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i.

22. Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd –

23. sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.”

24. Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Dwyt ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!”

25. “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae'r cwbl dw i'n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol.

26. Mae'r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i'n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i'n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o'r golwg.

27. Agripa, eich mawrhydi – ydych chi'n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i'n gwybod eich bod chi!”

28. “Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?”

29. Atebodd Paul, “Yn sydyn neu beidio – dw i'n gweddïo ar Dduw y gwnewch chi, a phawb arall sy'n gwrando arna i yma heddiw, ddod yr un fath â fi – ar wahân i'r cadwyni yma!”

30. Yna dyma'r brenin yn codi ar ei draed, a chododd y llywodraethwr a Bernice gydag e, a phawb arall oedd yno.

31. Roedden nhw'n sgwrsio wrth fynd allan, “Dydy'r dyn wedi gwneud dim byd i haeddu marw na hyd yn oed ei garcharu,” medden nhw.

32. “Gallet ti ei ollwng yn rhydd oni bai am y ffaith ei fod wedi gwneud apêl i Gesar,” meddai Agripa wrth Ffestus.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 26