Hen Destament

Testament Newydd

Actau 26:16-28 beibl.net 2015 (BNET)

16. Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti.

17. Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw

18. i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’

19. “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd.

20. Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.

21. A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i.

22. Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd –

23. sef y byddai'r Meseia yn dioddef, ac mai fe fyddai'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw oddi wrth y meirw, yn oleuni i Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.”

24. Yn sydyn dyma Ffestus yn gweiddi ac yn torri ar draws ei amddiffyniad, “Dwyt ti ddim yn gall, Paul! Mae dy holl ddysg yn dy yrru di'n wallgof!”

25. “Na, dw i ddim yn wallgof, eich Anrhydedd Ffestus,” meddai Paul. “Mae'r cwbl dw i'n ei ddweud yn berffaith wir ac yn rhesymol.

26. Mae'r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i'n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i'n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o'r golwg.

27. Agripa, eich mawrhydi – ydych chi'n credu beth ddwedodd y proffwydi? Dw i'n gwybod eich bod chi!”

28. “Wyt ti'n meddwl y gelli di berswadio fi i droi'n Gristion mor sydyn â hynny?”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 26