Hen Destament

Testament Newydd

Actau 26:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roeddwn i'n mynd o un synagog i'r llall i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cosbi, ac yn ceisio eu gorfodi nhw i gablu. Roedd y peth yn obsesiwn gwyllt gen i, ac roeddwn i hyd yn oed yn teithio i wledydd tramor i'w herlid nhw.

12. “Dyna'n union oeddwn i'n ei wneud ryw ddiwrnod – roedd y prif offeiriaid wedi rhoi'r awdurdod a'r cyfrifoldeb i mi fynd ar ôl y Cristnogion yn Damascus.

13. Roedd hi tua chanol dydd pan roeddwn i ar fy ffordd yno. Yna'n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o'r awyr yn disgleirio o'm cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na'r haul.

14. Dyma ni i gyd yn disgyn ar lawr, a chlywais lais yn siarad â mi yn Hebraeg, ‘Saul, Saul, pam rwyt ti'n fy erlid i? Dim ond gwneud drwg i ti dy hun wyt ti wrth dynnu'n groes i mi.’

15. “A dyma fi'n gofyn, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dyma'r Arglwydd yn ateb, ‘Iesu ydw i, sef yr un rwyt ti'n ei erlid.

16. Cod ar dy draed. Dw i wedi dy ddewis di i fod yn was i mi. Dw i am i ti ddweud wrth bobl am beth sydd wedi digwydd, ac am bopeth arall bydda i'n ei ddangos i ti.

17. Bydda i'n dy achub di o afael dy bobl dy hun a phobl y cenhedloedd eraill. Dw i'n dy anfon di atyn nhw

18. i agor eu llygaid nhw er mwyn iddyn nhw droi o dywyllwch i oleuni, a dianc o afael Satan at Dduw. Bydda i'n maddau eu pechodau nhw, a byddan nhw'n cael perthyn i'r bobl hynny sydd wedi eu gwneud yn lân drwy gredu ynof fi.’

19. “Felly, eich mawrhydi, dw i wedi ufuddhau i'r weledigaeth ges i o'r nefoedd.

20. Dw i wedi bod yn dweud wrth bobl fod rhaid iddyn nhw droi cefn ar eu pechodau a throi at Dduw – a byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod wedi newid go iawn. Gwnes i hynny gyntaf yn Damascus, ac wedyn yn Jerwsalem ac ar draws Jwdea, a hefyd i bobl o genhedloedd eraill.

21. A dyna pam wnaeth yr Iddewon fy nal i yn y deml a cheisio fy lladd i.

22. Ond mae Duw wedi edrych ar fy ôl i hyd heddiw, a dyna sut dw i'n dal yma i rannu'r neges gyda phawb, yn fach a mawr. Dw i'n dweud dim byd mwy na beth ddwedodd y proffwydi a Moses fyddai'n digwydd –

Darllenwch bennod gyflawn Actau 26