Hen Destament

Testament Newydd

Actau 26:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r Brenin Agripa'n dweud wrth Paul, “Rwyt ti'n rhydd i siarad.” Felly dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad:

2. “Y Brenin Agripa, dw i'n cyfri'n hun yn ffodus iawn mai o'ch blaen dw i'n sefyll yma heddiw i amddiffyn fy hun.

3. Dych chi'n gwbl gyfarwydd ag arferion yr Iddewon a'r pynciau llosg sy'n codi yn ein plith. Felly ga i ofyn i chi, os gwelwch yn dda, wrando ar beth sydd gen i i'w ddweud.

4. “Mae'r arweinwyr Iddewig yn gwybod amdana i ers pan o'n i'n blentyn – y blynyddoedd cynnar yn Cilicia, a hefyd y cyfnod fues i yn Jerwsalem.

5. Maen nhw'n gwybod ers talwm, petaen nhw'n fodlon cyfaddef hynny, fy mod i wedi byw fel Pharisead, sef sect fwyaf caeth ein crefydd ni.

6. A dw i ar brawf yma heddiw am fy mod i'n edrych ymlaen at weld yr hyn wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni yn dod yn wir.

7. Mae pobl Israel i gyd yn rhannu'r un gobaith – dyna pam maen nhw'n addoli Duw mor gydwybodol ddydd a nos. A'r gobaith yma ydy'r rheswm pam mae'r arweinwyr Iddewig wedi dod â cyhuddiad yn fy erbyn i, eich mawrhydi.

8. “Pam dych chi bobl yn ei chael hi mor anodd i gredu fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw?

9. Wrth gwrs, roeddwn innau ar un adeg yn meddwl fod rhaid i mi wneud popeth allwn i i wrthwynebu dilynwyr Iesu o Nasareth.

10. A dyna wnes i: ces i awdurdod gan y prif offeiriaid yn Jerwsalem i daflu nifer fawr o Gristnogion i'r carchar. Roeddwn i'n un o'r rhai oedd o blaid rhoi'r gosb eithaf iddyn nhw!

Darllenwch bennod gyflawn Actau 26