Hen Destament

Testament Newydd

Actau 25:8-22 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torri'r Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem na'r llywodraeth Rufeinig chwaith.”

9. Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i'r Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt ti'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o'm blaen i yno?”

10. Atebodd Paul: “Dw i yma'n sefyll o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrando'r achos. Dych chi'n gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon.

11. Os ydw i wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu'r gosb eithaf, dw i'n fodlon marw. Ond, os nad ydy'r cyhuddiadau yma'n wir, does gan neb hawl i'm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw i'n cyflwyno apêl i Gesar!”

12. Ar ôl i Ffestus drafod y mater gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n ateb: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!”

13. Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda'i chwaer Bernice, i ddymuno'n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr.

14. Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai.

15. “Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.

16. “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.

17. Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.

18. Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.

19. Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.

20. Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.

21. Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”

22. Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.”A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 25