Hen Destament

Testament Newydd

Actau 25:17-27 beibl.net 2015 (BNET)

17. Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.

18. Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.

19. Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.

20. Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.

21. Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”

22. Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.”A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”

23. Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda penaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.

24. Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma – maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw.

25. Dw i ddim yn credu ei fod wedi gwneud dim i haeddu cael ei ddienyddio, ond gan ei fod wedi gwneud apêl i'r Ymerawdwr dw i'n bwriadu ei anfon i Rufain.

26. Ond does gen i ddim byd pendant i'w ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wedi ei alw o'ch blaen chi i gyd, ac yn arbennig o'ch blaen chi, frenin Agripa. Dw i'n gobeithio y bydd gen i rywbeth i'w ysgrifennu amdano ar ôl yr ymholiad swyddogol yma.

27. Mae'n gwbl afresymol i mi ei anfon ymlaen heb ddweud yn glir beth ydy'r cyhuddiadau yn ei erbyn!”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 25