16. Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill.
17. “Ar ôl bod i ffwrdd ers rhai blynyddoedd, des i Jerwsalem gydag arian i helpu'r tlodion ac i gyflwyno offrwm i Dduw.
18. Dyna roeddwn i'n ei wneud yn y deml – roeddwn i newydd fod trwy'r ddefod o buredigaeth. Doedd dim tyrfa gyda mi, a doeddwn i ddim yn creu twrw o fath yn y byd.
19. Ond roedd yno Iddewon o dalaith Asia, a nhw ddylai fod yma i ddwyn cyhuddiad yn fy erbyn, os oes ganddyn nhw unrhyw reswm i wneud hynny!
20. Neu gadewch i'r dynion yma ddweud yn glir pa drosedd mae'r Sanhedrin wedi fy nghael i'n euog ohoni.
21. Ai'r gosodiad yma wnes i pan o'n i'n sefyll o'u blaen nhw ydy'r broblem: ‘Dw i ar brawf o'ch blaen chi am gredu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw’?”
22. Roedd Ffelics yn deall beth oedd y Ffordd Gristnogol, a dyma fe'n gohirio'r achos. “Gwna i benderfyniad yn yr achos yma ar ôl i'r capten Lysias ddod yma”
23. Rhoddodd orchymyn fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa, ond ei fod i gael peth rhyddid, a bod ei ffrindiau yn rhydd i ymweld a gofalu am ei anghenion.
24. Ychydig ddyddiau wedyn dyma Ffelics yn anfon am Paul. Roedd ei wraig Drwsila (oedd yn Iddewes) gydag e, a dyma nhw'n rhoi cyfle i Paul ddweud wrthyn nhw am y gred mai Iesu oedd y Meseia.