Hen Destament

Testament Newydd

Actau 24:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bum diwrnod wedyn daeth Ananias yr archoffeiriad i Cesarea gyda rhai o'r arweinwyr Iddewig, a chyfreithiwr o'r enw Tertwlus. Dyma nhw'n cyflwyno'r cyhuddiadau yn erbyn Paul i'r llywodraethwr.

2. Yna cafodd Paul ei alw i mewn, a dyma Tertwlus yn cyflwyno achos yr erlyniad i Ffelics:“Eich Anrhydedd. Dŷn ni'r Iddewon wedi mwynhau cyfnod hir o heddwch dan eich llywodraeth, ac mae gwelliannau mawr wedi digwydd yn y wlad o ganlyniad i'ch craffter gwleidyddol chi, syr.

3. Mae pobl ym mhobman yn cydnabod hyn, a dŷn ni'n hynod ddiolchgar i chi.

4. Ond heb gymryd gormod o'ch amser chi, carwn ofyn i chi fod mor garedig â gwrando arnon ni'n fyr iawn.

5. “Mae'r dyn yma o'ch blaen chi yn un o arweinwyr sect y Nasareaid. Mae wedi bod yn achosi trwbwl a chreu cynnwrf ymhlith yr Iddewon ar hyd a lled y byd.

6. Ceisiodd halogi'r deml yn Jerwsalem hyd yn oed, a dyna pam wnaethon ni ei arestio.

8. Cewch ei groesholi eich hunan, i weld mai dyna'n union ydy'r sefyllfa.”

9. A dyma'r arweinwyr Iddewig eraill yn dechrau ymuno i mewn, a mynnu mai dyna'r gwir.

10. Dyma'r llywodraethwr yn troi at Paul a rhoi arwydd mai ei dro e oedd hi i siarad. Felly dyma Paul yn ateb: “Syr, o wybod eich bod chi wedi bod yn farnwr ar y genedl yma ers blynyddoedd lawer, dw i'n falch iawn mai o'ch blaen chi dw i'n amddiffyn fy hun.

11. Mae'n ddigon hawdd i chi gadarnhau'r ffaith fod llai na deuddeg diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gyrraedd Jerwsalem a mynd i addoli yn y deml.

12. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn dadlau gydag unrhyw un, heb sôn am achosi cynnwrf yn y deml nac mewn unrhyw synagog, nac yn unman arall yn y ddinas.

13. A dydyn nhw ddim yn gallu profi'r cyhuddiadau yma yn fy erbyn i chwaith!

14. Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd Gristnogol. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi.

15. Dw i'n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy'n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae'r dynion eraill yma'n credu'r un peth!

16. Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 24