Hen Destament

Testament Newydd

Actau 23:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Paul yn edrych ar aelodau'r Sanhedrin ac yn dweud, “Frodyr, dw i wedi gwasanaethu Duw gyda chydwybod glir, a dw i'n dal i wneud hynny heddiw.”

2. Ar unwaith, dyma Ananias yr archoffeiriad yn gorchymyn i'r rhai oedd yn sefyll wrth ymyl Paul ei daro ar ei geg.

3. Dyma Paul yn ymateb trwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra'n torri'r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!”

4. “Wyt ti'n meiddio sarhau archoffeiriad Duw fel yna?” meddai'r rhai wrth ei ymyl.

5. “Frodyr,” meddai Paul, “doeddwn i ddim yn sylweddoli mai'r archoffeiriad oedd e. Mae'r ysgrifau'n dweud: ‘Paid dweud dim byd drwg am arweinydd dy bobl.’ ”

6. Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw'n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i'n credu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw.”

7. Pan ddwedodd hyn dyma'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dechrau dadlau.

8. (Dydy Sadwceaid ddim yn credu fod atgyfodiad, nac angylion nac ysbrydion, ond mae'r Phariseaid yn credu ynddyn nhw i gyd.)

9. Roedd yna dwrw ofnadwy, gyda rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd yn Phariseaid ar eu traed yn dadlau'n ffyrnig. “Dydy'r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o'i le! Falle fod ysbryd neu angel wedi siarad â fe!”

10. Aeth pethau mor ddrwg nes bod y capten yn ofni y byddai Paul yn cael ei anafu yn eu canol nhw! Felly gorchmynnodd i'w filwyr fynd i lawr i'w achub o'u canol a mynd ag e yn ôl i'r barics.

11. Y noson honno daeth yr Arglwydd at Paul a dweud wrtho, “Bydd yn ddewr! Mae'n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.”

12. Y bore wedyn dyma grŵp o Iddewon yn mynd ar lw i beidio bwyta nac yfed nes roedden nhw wedi llwyddo i ladd Paul.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 23