Hen Destament

Testament Newydd

Actau 22:19-30 beibl.net 2015 (BNET)

19. “‘Ond Arglwydd,’ meddwn innau, ‘mae'r bobl yma'n gwybod yn iawn mod i wedi mynd o un synagog i'r llall yn carcharu'r bobl sy'n credu ynot ti, ac yn eu curo nhw.

20. Pan gafodd Steffan ei ladd am ei fod yn siarad amdanat ti, roeddwn i yno'n cefnogi beth oedd yn digwydd! Fi oedd yn gofalu am fentyll y rhai oedd yn ei ladd.’

21. “Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, ‘Dos; dw i'n mynd i dy anfon di'n bell oddi yma at bobl o genhedloedd eraill.’”

22. Roedd y dyrfa wedi gwrando arno nes iddo ddweud hynny. Ond yna dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uchel, “Rhaid iddo gael ei ladd! Dydy e ddim yn haeddu byw!”

23. Dyma nhw'n dechrau gweiddi eto, tynnu eu mentyll i ffwrdd a thaflu llwch i'r awyr.

24. Felly dyma'r capten yn gorchymyn mynd â Paul i mewn i'r barics i gael ei groesholi gyda'r chwip, er mwyn ceisio darganfod pam roedd y bobl yn gweiddi arno fel hyn.

25. Wrth iddyn nhw rwymo ei freichiau ar led i'w chwipio, dyma Paul yn gofyn i'r swyddog milwrol oedd yn gyfrifol, “Oes gynnoch chi hawl i chwipio dinesydd Rhufeinig heb ei gael yn euog mewn llys barn?”

26. Pan glywodd y swyddog hynny, aeth at y capten. “Syr, beth dych chi'n ei wneud?” meddai wrtho. “Mae'r dyn yn ddinesydd Rhufeinig.”

27. Felly dyma'r capten yn mynd at Paul a gofyn iddo, “Wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?”“Ydw,” meddai Paul.

28. “Roedd rhaid i mi dalu arian mawr i gael bod yn ddinesydd,” meddai'r capten.“Ces i fy ngeni'n ddinesydd,” meddai Paul.

29. Dyma'r rhai oedd yn mynd i'w groesholi yn camu nôl yn syth. Ac roedd y capten ei hun wedi dychryn pan sylweddolodd ei fod wedi rhwymo dinesydd Rhufeinig â chadwyni.

30. Y diwrnod wedyn roedd y capten eisiau deall yn union beth oedd cyhuddiad yr Iddewon yn erbyn Paul. Dyma fe'n gollwng Paul yn rhydd o'i gadwyni, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r Sanhedrin ddod at ei gilydd. Wedyn daeth â Paul, a'i osod i sefyll o'u blaenau.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 22