Hen Destament

Testament Newydd

Actau 21:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma ni'n hwylio ymlaen o Tyrus ac yn glanio wedyn yn Ptolemais. Rhoddodd y Cristnogion yno groeso i ni, a chawson dreulio'r diwrnod gyda nhw.

8. A'r diwrnod wedyn dyma ni'n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o'r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i'r gweddwon).

9. Roedd gan Philip bedair o ferched dibriod oedd yn proffwydo.

10. Roedden ni wedi bod yno am rai dyddiau, a dyma broffwyd o'r enw Agabus yn dod yno o Jwdea.

11. Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a'i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo'r sawl sydd biau'r belt yma, ac yna'n ei drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.’”

12. Ar ôl clywed hyn, dyma ni a'r Cristnogion lleol yn Cesarea yn dechrau pledio ar Paul i beidio mynd i Jerwsalem.

13. Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grïo yma? Dych chi'n torri fy nghalon i. Dw i'n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.”

14. Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.”

15. Yn fuan wedyn dyma ni'n dechrau'r daith ymlaen i Jerwsalem.

16. Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartre Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o'r rhai cyntaf i ddod i gredu).

17. Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem.

18. Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno.

19. Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 21