Hen Destament

Testament Newydd

Actau 21:27-40 beibl.net 2015 (BNET)

27. Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw'n llwyddo i gynhyrfu'r dyrfa ac yn gafael ynddo

28. gan weiddi, “Bobl Israel, helpwch ni! Dyma'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhobman i droi yn erbyn ein pobl ni, a'n Cyfraith ni, a'r Deml yma! Ac mae wedi halogi'r lle sanctaidd yma drwy ddod â phobl o genhedloedd eraill i mewn yma!”

29. (Roedden nhw wedi gweld Troffimus o Effesus gyda Paul yn y ddinas yn gynharach, ac yn cymryd yn ganiataol ei fod wedi mynd gyda Paul lle na ddylai fynd yn y deml.)

30. Dyma'r cynnwrf yn lledu drwy'r ddinas i gyd, a phobl yn rhedeg yno o bob cyfeiriad. Dyma nhw'n gafael yn Paul a'i lusgo allan o'r deml, ac wedyn cau'r giatiau.

31. Roedden nhw'n mynd i'w ladd, ond clywodd capten y fyddin Rhufeinig fod reiat yn datblygu yn Jerwsalem.

32. Aeth yno ar unwaith gyda'i filwyr a rhedeg i'r lle roedd y dyrfa. Roedd rhai wrthi'n curo Paul, ond pan welon nhw'r milwyr dyma nhw'n stopio.

33. Dyma'r capten yn arestio Paul ac yn gorchymyn ei rwymo gyda dwy gadwyn. Wedyn gofynnodd i'r dyrfa pwy oedd, a beth oedd wedi ei wneud.

34. Ond roedd rhai yn gweiddi un peth, ac eraill yn gweiddi rhywbeth hollol wahanol. Roedd hi'n amhosib darganfod beth oedd y gwir yng nghanol yr holl dwrw, felly dyma'r capten yn gorchymyn i'r milwyr fynd â Paul i'r barics milwrol yn Antonia.

35. Erbyn i Paul gyrraedd y grisiau roedd y dyrfa wedi troi'n dreisgar, ac roedd rhaid i'r milwyr ei gario.

36. Roedd y dyrfa yn ei dilyn nhw yn gweiddi, “Rhaid ei ladd! Rhaid ei ladd!”

37. Roedd y milwyr ar fin mynd â Paul i mewn i'r barics pan ofynnodd i'r capten, “Ga i ddweud rhywbeth?” “Sut dy fod di'n siarad Groeg?” meddai'r capten wrtho,

38. “Onid ti ydy'r Eifftiwr hwnnw ddechreuodd wrthryfel ychydig yn ôl ac arwain pedwar mil o aelodau'r grŵp terfysgol ‛y Sicari‛ i'r anialwch?”

39. “Na,” meddai Paul, “Iddew ydw i; dw i'n ddinesydd o Tarsus yn Cilicia. Ga i siarad â'r bobl yma os gweli di'n dda?”

40. Rhoddodd y capten ganiatâd iddo, a safodd Paul ar y grisiau a chodi ei law i gael y dyrfa i dawelu. Pan roedden nhw i gyd yn dawel, dechreuodd eu hannerch yn yr iaith Hebraeg:

Darllenwch bennod gyflawn Actau 21