Hen Destament

Testament Newydd

Actau 21:14-25 beibl.net 2015 (BNET)

14. Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.”

15. Yn fuan wedyn dyma ni'n dechrau'r daith ymlaen i Jerwsalem.

16. Daeth rhai o Gristnogion Cesarea gyda ni, a mynd â ni i aros yng nghartre Mnason (dyn o Cyprus oedd yn un o'r rhai cyntaf i ddod i gredu).

17. Cawson ni groeso cynnes gan y Cristnogion pan gyrhaeddon ni Jerwsalem.

18. Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno.

19. Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill.

20. Pan glywon nhw'r hanes dyma nhw'n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw'n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti'n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses.

21. Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti'n dysgu'r Iddewon sy'n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw'r traddodiadau Iddewig eraill.

22. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Maen nhw'n siŵr o glywed dy fod ti wedi dod yma.

23. Dyma beth dŷn ni'n awgrymu. Mae pedwar dyn yma sydd wedi cymryd llw.

24. Dos gyda nhw, a mynd trwy'r ddefod o lanhau dy hun, a thalu'r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi'n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti'n byw yn ufudd i'r Gyfraith.

25. Ond lle mae'r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw – sef peidio bwyta cig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi eu tagu, a'u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 21