Hen Destament

Testament Newydd

Actau 20:25-38 beibl.net 2015 (BNET)

25. “A dyna dw i wedi ei wneud yn eich plith chi – dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto.

26. Felly, dw i am ddweud yma heddiw – dim fi sy'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un.

27. Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw'n achub, a beth mae'n ei ddisgwyl gynnon ni.

28. “Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi eu rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd – dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun!

29. Dw i'n gwybod yn iawn y bydd athrawon twyllodrus yn dod i'ch plith chi cyn gynted ag y bydda i wedi mynd, fel bleiddiaid gwyllt yn llarpio'r praidd.

30. Bydd hyd yn oed rhai o'ch pobl chi'ch hunain yn twistio'r gwirionedd i geisio denu dilynwyr iddyn nhw eu hunain.

31. Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi.

32. “Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi eu cysegru iddo'i hun.

33. Dw i ddim wedi ceisio cael arian na dillad gan neb.

34. Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.

35. Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”

36. Ar ôl dweud hyn i gyd, aeth ar ei liniau i weddïo gyda nhw.

37. Dyma pawb yn dechrau crïo wrth gofleidio Paul a'i gusanu.

38. (Roedden nhw'n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto.) Wedyn dyma nhw'n mynd i lawr at y llong gydag e.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 20