18. Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia.
19. Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i.
20. Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi.
21. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu.
22. “A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno.
23. Yr unig beth dw i'n wybod ydy mod i'n mynd i gael fy arestio a bod pethau'n mynd i fod yn galed – mae'r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny'n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd.
24. Sdim ots! Cyn belled â'm bod i'n gorffen y ras! Dydy mywyd i'n dda i ddim oni bai mod i'n gwneud y gwaith mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i mi – sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.
25. “A dyna dw i wedi ei wneud yn eich plith chi – dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto.
26. Felly, dw i am ddweud yma heddiw – dim fi sy'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un.
27. Dw i wedi dweud popeth sydd ei angen am y ffordd mae Duw'n achub, a beth mae'n ei ddisgwyl gynnon ni.