Hen Destament

Testament Newydd

Actau 20:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia,

2. ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de,

3. ac aros yno am dri mis. Pan oedd ar fin hwylio i Syria dyma fe'n darganfod fod yr Iddewon yn cynllwyn i ymosod arno, felly penderfynodd deithio yn ôl drwy Macedonia.

4. Yn teithio gydag e roedd Sopater fab Pyrrhus o Berea, Aristarchus a Secwndus o Thesalonica, Gaius o Derbe, hefyd Timotheus, a Tychicus a Troffimus o dalaith Asia.

5. Ond yna aeth y rhain yn eu blaenau i Troas, a disgwyl amdanon ni yno.

6. Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos.

7. Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos.

8. Roedden ni'n cyfarfod mewn ystafell i fyny'r grisiau, ac roedd llawer o lampau yn llosgi yno.

9. Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw.

10. Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 20