Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.

4. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.

5. Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.

6. Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.

7. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw.

8. “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?”

9. (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,

10. Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain

11. – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!”

12. Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw.

13. Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”

14. Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd.

15. Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!

16. “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:

17. ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2