Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:24-41 beibl.net 2015 (BNET)

24. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!

25. Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.

26. Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,

27. am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

28. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.’

29. “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.

30. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.

31. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!

32. A dyna ddigwyddodd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!

33. Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddo, er mwyn iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi ei weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw.

34. “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd

35. nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’

36. “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”

37. Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”

38. Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw.

39. Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.”

40. Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!”

41. Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2