Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:17-33 beibl.net 2015 (BNET)

17. ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.

18. Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.

19. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.

20. Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.

21. Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’

22. “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ei ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol trwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e.

23. Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Dyma chi, gyda help y Rhufeiniaid annuwiol yn ei ladd drwy ei hoelio a'i hongian ar groes.

24. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!

25. Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.

26. Felly mae nghalon i'n llawen a'm tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,

27. am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

28. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.’

29. “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.

30. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.

31. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!

32. A dyna ddigwyddodd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni'n lygad-dystion i'r ffaith!

33. Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddo, er mwyn iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi ei weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2