Hen Destament

Testament Newydd

Actau 2:10-22 beibl.net 2015 (BNET)

10. Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain

11. – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!”

12. Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw.

13. Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”

14. Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd.

15. Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!

16. “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:

17. ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.

18. Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.

19. Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear – gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.

20. Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.

21. Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’

22. “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ei ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol trwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 2