Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:31-41 beibl.net 2015 (BNET)

31. Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.

32. Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen!

33. Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon.

34. Ond pan ddeallodd y dyrfa ei fod yn Iddew, dyma nhw'n dechrau gweiddi gyda'i gilydd eto, “Artemis yr Effesiaid am byth!” Aeth y siantio ymlaen yn ddi-stop am tua dwy awr.

35. Clerc y ddinas lwyddodd i dawelu'r dyrfa yn y diwedd, ac meddai: “Bobl Effesus. Mae pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod mai yn ein dinas ni mae teml y dduwies fawr Artemis, ac mai ni sy'n gwarchod y ddelw ohoni ddaeth i lawr o'r nefoedd.

36. Does neb yn gallu gwadu hynny, felly mae'n bryd i chi dawelu, a pheidio gwneud dim byd byrbwyll.

37. Dydy'r dynion ddaethoch chi â nhw yma ddim yn euog o ddwyn unrhyw beth o'r deml nac o gablu ein duwies ni.

38. Felly, os oes gan Demetrius a'i ffrindiau gwyn yn erbyn rhywun, mae llysoedd i ddelio â'r mater, a barnwyr. Dyna'r lle i ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun.

39. Ac os oes unrhyw beth pellach, caiff ei setlo mewn cyfarfod cyhoeddus swyddogol.

40. Mae peryg i ni gael ein cyhuddo o ddechrau reiat o achos beth sydd wedi digwydd yma heddiw. A petai hynny'n digwydd, beth fydden ni'n ei ddweud wrth yr awdurdodau? – Does dim esgus am y peth.”

41. Ar ôl dweud hyn anfonodd bawb adre.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19