Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:25-33 beibl.net 2015 (BNET)

25. Daeth â'r gweithwyr i gyd at ei gilydd, a gwahodd pobl eraill oedd â busnesau tebyg. Dwedodd wrthyn nhw, “Ffrindiau, y busnes yma ydy'n bywoliaeth ni – mae'n gwneud arian da i ni.

26. Ond, fel dych chi'n gwybod, mae'r dyn Paul yma wedi llwyddo i berswadio lot fawr o bobl bod y delwau dŷn ni'n eu gwneud ddim yn dduwiau o gwbl mewn gwirionedd. Mae wedi gwneud hyn, dim yn unig yma yn Effesus, ond bron drwy dalaith Asia i gyd.

27. Mae peryg nid yn unig i'n busnes ni fynd i'r wal, ond hefyd i deml Artemis golli ei dylanwad, ac i'r dduwies fawr ei hun, sy'n cael ei haddoli ar hyd a lled Asia, golli ei statws!”

28. Wrth glywed beth oedd gan Demetrius i'w ddweud, dyma'r dyrfa'n cynhyrfu'n lân a dechrau gweiddi: “Artemis yr Effesiaid am byth!”

29. Cyn bo hir roedd y ddinas i gyd yn ferw gwyllt. Dyma nhw'n dal Gaius ac Aristarchus (dau o Macedonia oedd wedi bod yn teithio gyda Paul), a'u llusgo nhw i'r amffitheatr enfawr oedd yno.

30. Roedd Paul eisiau mynd i mewn i wynebu'r dyrfa, ond wnaeth y disgyblion ddim gadael iddo.

31. Dyma hyd yn oed rhai o swyddogion y dalaith roedd Paul yn ffrindiau â nhw yn anfon neges ato i bwyso arno i beidio mentro i mewn.

32. Roedd y dyrfa oedd wedi casglu mewn anhrefn llwyr. Roedd rhai ohonyn nhw'n gweiddi un peth a rhai eraill yn gweiddi rhywbeth arall. Doedd gan y rhan fwyaf o'r bobl oedd yno ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen!

33. Dyma rai o'r arweinwyr Iddewig yn gwthio dyn o'r enw Alecsander i'r blaen i esbonio fod gan y cwbl ddim byd i'w wneud â'r Iddewon. Cododd yntau ei law i geisio tawelu'r dyrfa, er mwyn iddo amddiffyn enw da'r Iddewon.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19