Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.

14. (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw).

15. Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?”

16. A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.

17. Clywodd pawb yn Effesus beth oedd wedi digwydd – yr Iddewon a phawb arall. Daeth ofn drostyn nhw i gyd, ac roedd enw'r Arglwydd Iesu yn cael ei barchu fwy fyth.

18. Dyma lawer o'r bobl wnaeth gredu yn cyfaddef yn agored y pethau drwg roedden nhw wedi eu gwneud.

19. Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw'n dod a'r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi yn gyhoeddus. Roedd y llyfrau gafodd eu llosgi yn werth ffortiwn – dros 50,000 drachma yn ôl un amcangyfrif.

20. Fel hyn roedd neges yr Arglwydd Iesu yn mynd ar led ac yn mynd yn fwy a mwy dylanwadol.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19