Hen Destament

Testament Newydd

Actau 19:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tra roedd Apolos yn Corinth teithiodd Paul ar draws gwlad a chyrraedd Effesus. Yno daeth o hyd i grŵp o gredinwyr,

2. a gofynnodd iddyn nhw, “Wnaethoch chi dderbyn yr Ysbryd Glân pan ddaethoch chi i gredu?”“Na,” medden nhw, “dŷn ni ddim hyd yn oed wedi clywed fod yna'r fath beth ag Ysbryd Glân!”

3. “Felly pa fedydd gawsoch chi?” meddai Paul.“Bedydd Ioan,” medden nhw.

4. Atebodd Paul, “Bedydd i ddangos eich bod am droi cefn ar bechod oedd bedydd Ioan. Dwedodd Ioan wrth y bobl hefyd am gredu yn yr un oedd i ddod ar ei ôl, sef yn Iesu.”

5. Felly ar ôl clywed hyn dyma nhw'n cael eu bedyddio i ddangos eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.

6. Wedyn dyma Paul yn rhoi ei ddwylo arnyn nhw, a daeth yr Ysbryd Glân arnyn nhw, a dyma nhw'n dechrau siarad ieithoedd eraill a phroffwydo.

7. (Roedd yno ryw ddwsin o ddynion i gyd.)

8. Am dri mis aeth Paul i'r synagog, a siarad yn gwbl agored yno, a cheisio perswadio'r bobl am deyrnasiad Duw.

9. Ond dyma rhai ohonyn nhw'n troi'n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw'n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â'r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw'n cyfarfod yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.

10. Aeth hyn ymlaen am ddwy flynedd, nes bod pawb yn nhalaith Asia wedi clywed neges yr Arglwydd, yn Iddewon a phobl o genhedloedd eraill.

11. Roedd Duw yn gwneud gwyrthiau anhygoel drwy Paul.

12. Roedd cleifion yn cael eu hiacháu ag ysbrydion drwg yn mynd allan ohonyn nhw pan oedd cadachau a ffedogau oedd wedi ei gyffwrdd yn cael eu cymryd atyn nhw.

13. Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.

14. (Meibion Scefa, archoffeiriad Iddewig, oedden nhw – ac roedd saith ohonyn nhw).

15. Dyma'r ysbryd drwg yn ateb, “Dw i'n nabod Iesu, ac yn gwybod am Paul, ond pwy dych chi?”

16. A dyma'r dyn oedd a'r ysbryd drwg ynddo yn ymosod arnyn nhw a rhoi'r fath gweir iddyn nhw i gyd nes iddyn nhw redeg allan o'r tŷ yn noeth ac yn gwaedu.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 19