Hen Destament

Testament Newydd

Actau 18:2-14 beibl.net 2015 (BNET)

2. Yno dyma fe'n cyfarfod Iddew o'r enw Acwila oedd yn dod yn wreiddiol o Pontus. Roedd Acwila a'i wraig Priscila wedi symud i Corinth o'r Eidal ychydig cyn hyn, am fod yr ymerawdwr Clawdiws Cesar wedi gorchymyn fod pob Iddew i adael Rhufain.

3. Gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw.

4. Yna bob Saboth byddai'n mynd i'r synagog ac yn ceisio perswadio Iddewon a Groegiaid i gredu'r newyddion da.

5. Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu'n llawn amser, a dangos yn glir i'r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.

6. Ond pan wnaethon nhw droi yn ei erbyn a dechrau ei sarhau, dyma Paul yn ysgwyd y llwch oddi ar ei ddillad fel arwydd iddyn nhw. “Arnoch chi mae'r bai am beth bynnag fydd yn digwydd i chi!” meddai, “Dw i wedi gwneud beth dw i'n gallu. O hyn ymlaen dw i'n mynd at bobl y cenhedloedd eraill.”

7. Aeth Paul i aros yn nhŷ Titius Jwstus, oedd ddim yn Iddew ond oedd yn addoli Duw ac yn byw y drws nesa i'r synagog.

8. Roedd Crispus, arweinydd y synagog, a phawb yn ei dŷ, wedi dod i gredu yn yr Arglwydd; ac roedd llawer o bobl eraill Corinth wedi clywed Paul a dod i gredu hefyd, a chael eu bedyddio.

9. Un noson cafodd Paul weledigaeth, pan ddwedodd yr Arglwydd wrtho: “Paid bod ofn! Dal ati i ddweud wrth bobl amdana i. Paid bod yn ddistaw.

10. Dw i gyda ti, a fydd neb yn ymosod arnat ti na gwneud niwed i ti. Dw i'n mynd i achub llawer o bobl yn y ddinas yma.”

11. Felly arhosodd Paul yn Corinth am flwyddyn a hanner, yn dysgu neges Duw i'r bobl.

12. Tra roedd Galio yn rhaglaw ar Achaia, dyma'r arweinwyr Iddewig yn dod at ei gilydd i ddal Paul a mynd ag e i'r llys.

13. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd, “Perswadio pobl i addoli Duw mewn ffyrdd anghyfreithlon.”

14. Ond cyn i Paul gael cyfle i gyflwyno ei amddiffyniad, dyma Galio yn dweud wrth yr Iddewon: “Petaech chi Iddewon yn dod â'r dyn yma o flaen y llys am gamymddwyn neu gyflawni rhyw drosedd difrifol, byddwn i'n caniatáu i'r achos fynd yn ei flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 18