Hen Destament

Testament Newydd

Actau 18:19-28 beibl.net 2015 (BNET)

19. Ar ôl glanio yn Effesus, gadawodd Paul Priscila ac Acwila yno. Ond tra roedd yno aeth i drafod gyda'r Iddewon yn y synagog.

20. Dyma nhw'n gofyn iddo aros yn hirach yno, ond gwrthododd.

21. Ond wrth adael addawodd iddyn nhw, “Bydda i'n dod nôl atoch chi os Duw a'i myn.” Felly hwyliodd Paul yn ei flaen o Effesus,

22. a chyrraedd Cesarea. Yna aeth i ymweld â'r eglwys yn Jerwsalem cyn mynd yn ei flaen i'w eglwys gartref yn Antiochia Syria.

23. Ar ôl aros yn Antiochia am dipyn, aeth i ymweld â'r eglwysi yn ardal Galatia a Phrygia unwaith eto, a chryfhau ffydd y Cristnogion yno.

24. Yn y cyfamser roedd rhyw Iddew o'r enw Apolos wedi mynd i Effesus. Roedd yn dod yn wreiddiol o Alecsandria – dyn galluog, hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd.

25. Roedd wedi dysgu am yr Arglwydd Iesu, ac yn siarad yn frwd iawn amdano. Roedd beth oedd e'n ei ddysgu am Iesu yn ddigon cywir, ond dim ond bedydd Ioan oedd e'n gwybod amdano.

26. Roedd yn siarad yn gwbl agored am y pethau yma yn y synagog. Pan glywodd Priscila ac Acwila beth oedd yn ei ddweud, dyma nhw yn ei wahodd i'w cartref ac yn esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl.

27. Cododd awydd yn Apolos i fynd i Achaia, ac roedd y credinwyr eraill yn ei gefnogi. Felly dyma nhw'n ysgrifennu llythyr at Gristnogion Achaia yn dweud wrthyn nhw am roi croeso iddo. Pan gyrhaeddodd yno roedd yn help mawr i'r rhai oedd, drwy garedigrwydd Duw, wedi dod i gredu.

28. Roedd e'n gwrthbrofi dadleuon yr Iddewon mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Roedd yn defnyddio'r ysgrifau sanctaidd i ddangos yn glir mai Iesu oedd y Meseia.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 18