2. Dim ond pethau da oedd gan Gristnogion Lystra ac Iconium i'w dweud am Timotheus,
3. felly roedd Paul am iddo fynd gyda nhw ar y daith. Trefnodd i Timotheus gael ei enwaedu rhag i'r Iddewon yn yr ardal gael eu tramgwyddo. Roedden nhw'n gwybod fod tad Timotheus yn Roegwr.
4. Wrth deithio o un dref i'r llall roedden nhw'n dweud beth oedd yr apostolion a'r arweinwyr eraill yn Jerwsalem wedi penderfynu ei ofyn gan gredinwyr o genhedloedd eraill.
5. Felly roedd ffydd yr eglwysi yn cryfhau a nifer y bobl ynddyn nhw'n tyfu bob dydd.
6. Teithiodd Paul a'i ffrindiau ymlaen ar hyd cyrion Phrygia a Galatia, gan fod yr Ysbryd Glân wedi eu stopio nhw rhag mynd i dalaith Asia i rannu eu neges.
7. Dyma nhw'n cyrraedd ffin Mysia gyda'r bwriad o fynd ymlaen i Bithynia, ond dyma Ysbryd Glân Iesu yn eu stopio nhw rhag mynd yno hefyd.
8. Felly dyma nhw'n mynd trwy Mysia i lawr i ddinas Troas.
9. Y noson honno cafodd Paul weledigaeth – roedd dyn o Macedonia yn sefyll o'i flaen, yn crefu arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!”
10. Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da.