Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:4-24 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dyma'r Ysbryd Glân yn eu hanfon allan, a dyma'r ddau yn mynd i lawr i borthladd Antiochia, sef Selwsia, ac yn hwylio drosodd i Ynys Cyprus.

5. Ar ôl cyrraedd Salamis dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.)

6. Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw,

7. ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw.

8. Ond dyma Elymas ‛y dewin‛ (dyna ydy ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd.

9. Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw'n Paul), yn llawn o'r Ysbryd Glân, yn edrych i fyw llygad Elymas, ac yn dweud,

10. “Plentyn i'r diafol wyt ti! Gelyn popeth da! Rwyt ti mor dwyllodrus a llawn castiau! Pryd wyt ti'n mynd i stopio gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd?

11. Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod – fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law.

12. Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi ei syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.

13. Yna dyma Paul a'r lleill yn gadael Paffos a hwylio yn eu blaenau i Perga yn Pamffilia. Dyna lle gadawodd Ioan Marc nhw i fynd yn ôl i Jerwsalem.

14. Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog.

15. Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.”

16. Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw.

17. Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn.

18. Goddefodd eu hymddygiad yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd.

19. Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu.

20. Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel.

21. Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd.

22. Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’

23. “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu.

24. Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13