37. Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru!
38. “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu.
39. Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi.
40. Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi:
41. ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’”
42. Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn.
43. Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.
44. Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd.
45. Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud.