Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:33-51 beibl.net 2015 (BNET)

33. wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn Dad i ti.’

34. Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr gafodd eu haddo i Dafydd.’

35. Ac mae Salm arall yn dweud: ‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi ei gysegru i ti bydru yn y bedd.’

36. “Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru.

37. Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru!

38. “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu.

39. Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi.

40. Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi:

41. ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’”

42. Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn.

43. Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.

44. Y Saboth wedyn roedd fel petai'r ddinas i gyd wedi dod i glywed neges yr Arglwydd.

45. Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud.

46. Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill.

47. Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni: ‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’”

48. Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu.

49. Felly aeth neges yr Arglwydd ar led drwy'r ardal i gyd.

50. Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal.

51. Ar ôl ysgwyd y llwch oddi ar eu traed fel arwydd o brotest, dyma'r ddau yn mynd yn eu blaen i Iconium.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13