Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:27-43 beibl.net 2015 (BNET)

27. Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud!

28. Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio.

29. Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi ei broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd.

30. Ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw!

31. Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw.

32. “Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni

33. wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn Dad i ti.’

34. Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr gafodd eu haddo i Dafydd.’

35. Ac mae Salm arall yn dweud: ‘Fyddi di ddim yn gadael i'r un sydd wedi ei gysegru i ti bydru yn y bedd.’

36. “Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru.

37. Ond wnaeth corff yr un gododd Duw yn ôl yn fyw ddim pydru!

38. “Felly, frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod maddeuant pechodau ar gael i chi o achos beth wnaeth Iesu.

39. Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi.

40. Felly, gwyliwch fod yr hyn soniodd y proffwydi amdano ddim yn digwydd i chi:

41. ‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’”

42. Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn.

43. Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13