Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:22-33 beibl.net 2015 (BNET)

22. Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’

23. “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu.

24. Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio.

25. Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’

26. “Frodyr a chwiorydd – chi sy'n blant i Abraham, a chithau o genhedloedd eraill sy'n addoli Duw hefyd, mae'r neges yma am achubiaeth wedi ei hanfon aton ni.

27. Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud!

28. Er bod ganddyn nhw ddim achos digonol yn ei erbyn i gyfiawnhau'r gosb eithaf, dyma nhw'n gofyn i Peilat ei ddienyddio.

29. Ar ôl gwneud iddo bopeth oedd wedi ei broffwydo, dyma nhw yn ei dynnu i lawr o'r pren a'i roi mewn bedd.

30. Ond dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw!

31. Am gyfnod o rai wythnosau cafodd ei weld gan y bobl oedd wedi teithio gydag e o Galilea i Jerwsalem. Maen nhw'n lygad-dystion sy'n gallu dweud wrth y bobl beth welon nhw.

32. “Dŷn ni yma gyda newyddion da i chi: Mae'r cwbl wnaeth Duw ei addo i'n cyndeidiau ni

33. wedi dod yn wir! Mae wedi codi Iesu yn ôl yn fyw. Dyna mae'r ail Salm yn ei ddweud: ‘Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn Dad i ti.’

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13