Hen Destament

Testament Newydd

Actau 13:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dyma Paul yn sefyll ac yn codi ei law i dawelu'r bobl, ac meddai: “Gwrandwch, bobl Israel, a chithau o genhedloedd eraill sydd yma'n addoli Duw.

17. Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn.

18. Goddefodd eu hymddygiad yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd.

19. Yna dinistrio saith cenedl yn Canaan a rhoi eu tir i'w bobl Israel ei etifeddu.

20. Digwyddodd hyn i gyd dros gyfnod o ryw 450 o flynyddoedd. Yn dilyn hynny rhoddodd Duw farnwyr iddyn nhw i'w harwain hyd gyfnod y proffwyd Samuel.

21. Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd.

22. Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’

23. “Un o ddisgynyddion Dafydd ydy'r un anfonodd Duw yn Achubwr i Israel, sef Iesu.

24. Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio.

25. Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’

Darllenwch bennod gyflawn Actau 13