Hen Destament

Testament Newydd

Actau 12:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg.

5. Tra roedd Pedr yn y carchar roedd yr eglwys yn gweddïo'n daer ar Dduw drosto.

6. Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi ei gadwyno i ddau filwr – un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa.

7. Yn sydyn roedd angel yno, a golau yn disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar freichiau Pedr.

8. Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.”

9. Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell – ond heb wybod os oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl!

10. Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf, a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd trwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun.

11. Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.”

12. Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno.

13. Dyma Pedr yn curo'r drws allanol, ac aeth morwyn o'r enw Rhoda i ateb y drws.

14. Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb.

15. “Ti'n drysu!” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna!” medden nhw wedyn.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 12