Hen Destament

Testament Newydd

Actau 12:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! – mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.”

12. Pan sylweddolodd hyn, aeth i gartref Mair, mam Ioan Marc. Roedd criw o bobl wedi dod at ei gilydd i weddïo yno.

13. Dyma Pedr yn curo'r drws allanol, ac aeth morwyn o'r enw Rhoda i ateb y drws.

14. Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb.

15. “Ti'n drysu!” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna!” medden nhw wedyn.

16. Roedd Pedr yn dal ati i guro'r drws, a chawson nhw'r sioc ryfedda pan agoron nhw'r drws a'i weld.

17. Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi ei ryddhau o'r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a'r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall.

18. Y bore wedyn roedd cynnwrf anhygoel ymhlith y milwyr ynglŷn â beth oedd wedi digwydd i Pedr.

19. Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio.Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig.

20. Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw'n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw'n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i'w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.)

21. Ar y diwrnod mawr, eisteddodd Herod ar ei orsedd yn gwisgo'i holl regalia, ac annerch y bobl.

22. Dyma'r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy'n siarad!”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 12