Hen Destament

Testament Newydd

Actau 11:8-25 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!”

9. “Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’

10. Digwyddodd yr un peth dair gwaith cyn i'r gynfas gael ei thynnu yn ôl i fyny i'r awyr.

11. “Y funud honno dyma dri dyn oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea yn cyrraedd y tu allan i'r tŷ lle roeddwn i'n aros.

12. Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i.

13. Dwedodd wrthon ni ei fod wedi gweld angel yn ei dŷ, a bod yr angel wedi dweud wrtho, ‘Anfon i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr.

14. Bydd e'n dweud sut y gelli di a phawb sy'n dy dŷ gael eu hachub.’

15. “Pan ddechreuais i siarad, dyma'r Ysbryd Glân yn dod arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ni ar y dechrau.

16. A dyma fi'n cofio beth roedd yr Arglwydd Iesu wedi ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.’

17. Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?”

18. Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.

19. O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon.

20. Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill.

21. Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd.

22. Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd.

23. Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.

24. Roedd Barnabas yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Glân ac yn credu'n gryf, a chafodd nifer fawr o bobl eu harwain ganddo at yr Arglwydd.

25. Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 11