Hen Destament

Testament Newydd

Actau 11:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod pobl o genhedloedd eraill wedi credu neges Duw.

2. Ond pan aeth Pedr yn ôl i Jerwsalem, cafodd ei feirniadu'n hallt gan rai o'r credinwyr Iddewig,

3. “Rwyt ti wedi mynd at bobl o genhedloedd eraill a hyd yn oed bwyta gyda nhw!” medden nhw.

4. Dyma Pedr yn dweud wrthyn nhw'n union beth oedd wedi digwydd:

5. “Roeddwn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i.

6. Edrychais i mewn ynddi, ac roedd pob math o anifeiliaid – rhai gwyllt, ymlusgiaid ac adar.

7. Wedyn dyma lais yn dweud wrtho i, ‘Cod Pedr, lladd beth rwyt ti eisiau, a'i fwyta.’

Darllenwch bennod gyflawn Actau 11