24. Dyma nhw'n cyrraedd Cesarea y diwrnod wedyn. Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw ei berthnasau a'i ffrindiau draw.
25. Pan ddaeth Pedr i mewn trwy'r drws, dyma Cornelius yn mynd ato a syrthio i lawr o'i flaen fel petai'n ei addoli.
26. Ond dyma Pedr yn gwneud iddo godi: “Saf ar dy draed,” meddai wrtho, “dyn cyffredin ydw i fel ti.”
27. Roedd Pedr wrthi'n sgwrsio gyda Cornelius wrth fynd i mewn, a gwelodd fod criw mawr o bobl wedi dod i wrando arno.
28. A dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod fod ein Cyfraith ni'r Iddewon ddim yn caniatáu i ni gymysgu gyda phobl o genhedloedd eraill. Ond mae Duw wedi dangos i mi fod gen i ddim hawl i ystyried unrhyw un yn aflan.
29. Felly pan anfonoch chi amdana i, doedd dim dadl am y peth – des i ar unwaith. Ga i ofyn felly, pam wnaethoch chi anfon amdana i?”
30. Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar.