Hen Destament

Testament Newydd

Actau 10:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. “Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddai Pedr. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta.”

15. Ond meddai'r llais, “Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!”

16. Digwyddodd yn union yr un peth dair gwaith! Yna'n sydyn aeth y gynfas yn ôl i fyny i'r awyr.

17. Roedd Pedr yn methu'n lân â deall beth oedd ystyr y weledigaeth. Yna tra roedd yn meddwl am y peth cyrhaeddodd y dynion roedd Cornelius wedi eu hanfon. Dyma nhw'n sefyll y tu allan i'r giât,

18. a galw i ofyn os oedd Simon Pedr yn aros yno.

19. Yn y cyfamser, tra roedd Pedr yn pendroni am y weledigaeth gafodd, dwedodd yr Ysbryd Glân wrtho, “Simon, mae tri dyn yma'n edrych amdanat ti,

20. felly dos i lawr atyn nhw. Dos gyda nhw, am mai fi sydd wedi eu hanfon nhw. Paid petruso.”

21. Felly dyma Pedr yn mynd i lawr y grisiau a dweud wrth y dynion, “Fi dych chi'n edrych amdano. Pam dych chi yma?”

22. Atebodd y dynion, “Ein meistr ni, Cornelius, sy'n swyddog yn y fyddin sydd wedi'n hanfon ni yma. Mae e'n ddyn da a duwiol sy'n cael ei barchu'n fawr gan yr Iddewon i gyd. Dwedodd angel wrtho am dy wahodd i'w dŷ iddo gael clywed beth sydd gen ti i'w ddweud.”

23. Felly dyma Pedr yn croesawu'r dynion i mewn i'r tŷ i aros dros nos.Y diwrnod wedyn dyma Pedr yn mynd gyda nhw, ac aeth rhai o gredinwyr Jopa gydag e hefyd.

24. Dyma nhw'n cyrraedd Cesarea y diwrnod wedyn. Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw ei berthnasau a'i ffrindiau draw.

25. Pan ddaeth Pedr i mewn trwy'r drws, dyma Cornelius yn mynd ato a syrthio i lawr o'i flaen fel petai'n ei addoli.

26. Ond dyma Pedr yn gwneud iddo godi: “Saf ar dy draed,” meddai wrtho, “dyn cyffredin ydw i fel ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 10