Hen Destament

Testament Newydd

Actau 1:5-21 beibl.net 2015 (BNET)

5. Roedd Ioan yn bedyddio gyda dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi'ch bedyddio gyda'r Ysbryd Glân.”

6. Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”

7. Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi ei threfnu.

8. Ond bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb – yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy'r byd i gyd.”

9. Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg.

10. Tra roedden nhw'n syllu i'r awyr yn edrych arno'n mynd, yn sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn ymddangos wrth eu hymyl nhw,

11. a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”

12. Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem

13. a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago.

14. Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd.

15. Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol,

16. a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio.

17. Roedd wedi bod yn un ohonon ni ac wedi gwasanaethu gyda ni!”

18. (Prynodd Jwdas faes gyda'r tâl gafodd am y brad. Yno syrthiodd i'w farwolaeth, a byrstiodd ei gorff yn agored nes bod ei berfedd yn y golwg.

19. Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‛Maes y Gwaed‛.)

20. “Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr,“‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae'n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’

21. “Felly mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i gymryd ei le – un ohonoch chi oedd gyda ni pan oedd yr Arglwydd Iesu yma.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 1