Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 4:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith.

12. Dw i'n anfon Tychicus i Effesus.

13. A pan ddoi di, tyrd â'r fantell adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau.

14. Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu.

15. Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.

16. Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi eu cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw.

17. Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!

18. A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!

19. Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws.

20. Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus.

21. Plîs gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti.

22. Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 4