Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 2 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di'n gryf.

2. Dywed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill.

3. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia.

4. Dydy milwr ddim yn poeni am y mân bethau sy'n poeni pawb arall – mae e eisiau plesio ei gapten.

5. Neu meddylia am athletwr yn cystadlu mewn mabolgampau – fydd e ddim yn ennill yn ei gamp heb gystadlu yn ôl y rheolau.

6. A'r ffermwr sy'n gweithio mor galed ddylai fod y cyntaf i gael peth o'r cnwd.

7. Meddylia am beth dw i'n ddweud. Bydd yr Arglwydd yn dy helpu di i ddeall hyn i gyd.

8. Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi.

9. A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef – hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw!

10. Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol.

11. Mae'r hyn sy'n cael ei ddweud mor wir!:Os buon ni farw gyda'r Meseia,byddwn ni hefyd yn byw gydag e;

12. os byddwn ni'n dal ati,byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e.Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e,bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni;

13. Os ydyn ni'n anffyddlon,bydd e'n siŵr o fod yn ffyddlon;oherwydd dydy e ddim yn gallugwadu pwy ydy e.

Gweithiwr mae Duw'n falch ohono

14. Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando.

15. Gwna dy orau glas i sicrhau fod Duw yn falch ohonot ti – dy fod di'n weithiwr sydd ddim angen bod â chywilydd o'i waith. Bydd yn un sy'n esbonio'r gwir yn iawn.

16. Cadw draw oddi wrth glebran bydol. Mae peth felly yn arwain pobl yn bellach a phellach oddi wrth Dduw.

17. Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus

18. – maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl!

19. Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll – mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”

20. Mewn tŷ crand mae rhai llestri wedi eu gwneud o aur ac arian, a rhai eraill yn llestri o bren neu'n llestri pridd. Mae'r llestri aur ac arian yn cael eu defnyddio ar achlysuron arbennig, ond y lleill at ddefnydd pob dydd.

21. Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da.

22. Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn.

23. Paid gwastraffu dy amser gyda rhyw ddyfalu dwl. Dydy pethau felly'n gwneud dim ond achosi gwrthdaro.

24. Ddylai gwas Duw ddim ffraeo gyda phobl. Dylai fod yn garedig at bawb. Dylai allu dysgu pobl eraill, a pheidio byth â dal dig.

25. Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir;

26. callio, a dianc o drap y diafol. Ond ar hyn o bryd maen nhw'n gaeth ac yn gwneud beth mae'r diafol eisiau.