Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 2:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander.

9. Pan fydd yr un drwg yn dod, bydd yn gwneud gwaith Satan. Bydd ganddo'r nerth i wneud gwyrthiau syfrdanol, a rhyfeddodau ffug eraill.

10. Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw.

11. Mae Duw yn eu barnu nhw drwy anfon rhith twyllodrus fydd yn gwneud iddyn nhw gredu celwydd.

12. Felly bydd pawb sy'n gwrthod credu'r gwir ac sydd wedi bod yn mwynhau gwneud drygioni yn cael eu cosbi.

13. Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir.

14. Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist.

15. Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi.

16. Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni),

17. yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy'n dda.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 2