Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A peidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu.