Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 3:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i'r golwg i gael ei farnu.

11. Am fod popeth yn mynd i gael ei ddinistrio fel hyn, mae'n amlwg sut bobl ddylen ni fod! Dylen ni fyw bywydau glân sy'n rhoi Duw yn y canol,

12. ac edrych ymlaen yn frwd i ddiwrnod Duw ddod. Dyna pryd fydd popeth yn yr awyr yn cael ei ddinistrio gan dân, a'r elfennau yn toddi yn y gwres.

13. Ond dŷn ni'n edrych ymlaen at y nefoedd newydd a'r ddaear newydd mae Duw wedi ei haddo, lle bydd popeth mewn perthynas iawn gydag e.

14. Felly, ffrindiau annwyl, gan mai dyna dych chi'n edrych ymlaen ato, gwnewch eich gorau glas i fyw bywydau sy'n lân a di-fai, ac mewn perthynas iawn gyda Duw.

15. Dylech chi weld fod amynedd yr Arglwydd yn rhoi cyfle i chi gael eich achub. Dyna'n union ddwedodd ein brawd annwyl Paul pan ysgrifennodd atoch chi, ac mae Duw wedi rhoi dealltwriaeth arbennig iddo fe.

16. Mae'n sôn am y pethau hyn i gyd yn ei lythyrau eraill hefyd. Mae rhai pethau yn ei lythyrau sy'n anodd eu deall. A dyna'r pethau mae pobl sydd heb eu dysgu ac sy'n hawdd eu camarwain yn eu gwyrdroi, yn union fel gyda'r ysgrifau sanctaidd eraill. Y canlyniad ydy eu bod nhw'n mynd i ddinistr!

17. Ond dych chi wedi cael eich rhybuddio, ffrindiau annwyl. Felly gwyliwch rhag cael eich ysgubo i ffwrdd gan syniadau ffals pobl ddiegwyddor. Dw i ddim am i'ch ffydd gadarn chi simsanu.

18. Yn lle hynny, dw i am i chi brofi mwy a mwy o ffafr a haelioni ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist a dod i'w nabod e'n well. Mae e'n haeddu cael ei foli! – yn awr ac ar y diwrnod pan fydd tragwyddoldeb yn gwawrio! Amen.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 3