Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 3:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ffrindiau annwyl, hwn ydy'r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio'ch annog chi i gadw'ch meddyliau yn lân.

2. Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a'n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf.

3. Y peth pwysig i'w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‛chwarae crefydd‛, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o'r gwirionedd.

4. Byddan nhw'n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau'r byd!”

5. Ond wrth siarad felly maen nhw'n diystyru rhai ffeithiau. Roedd nefoedd a daear yn bod ymhell bell yn ôl am fod Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ffurfio. Daeth y ddaear allan o ddŵr, a chafodd tir sych ei amgylchynu gan ddŵr.

6. Wedyn defnyddiodd Duw yr un dŵr i ddod â dinistr i'r byd drwy foddi'r cwbl adeg y dilyw.

7. Ac mae Duw wedi gorchymyn fod y nefoedd a'r ddaear bresennol wedi eu cadw i fynd trwy dân. Ie, wedi eu cadw ar gyfer dydd y farn, pan fydd pobl annuwiol yn cael eu dinistrio.

8. Peidiwch anghofio hyn, ffrindiau annwyl: I'r Arglwydd mae un diwrnod fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod.

9. Dydy Duw ddim yn hwyr yn gwneud beth mae wedi ei addo, fel mae rhai yn meddwl am fod yn hwyr. Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 3